Côrdydd
yn y Caribî
Flwyddyn
yn ôl, cafodd Côrdydd wahoddiad i gymryd
rhan yng Ngwyl Geltaidd flynyddol Barbados. Derbyniwyd
y gwahoddiad fwy neu lai ar unwaith, yna cawsom flwyddyn
o gynnal gweithgareddau i ddenu diddordeb a chodi arian
tuag at y daith.
Ar
ôl blwyddyn o baratoi ac edrych ymlaen, daeth
yr aros i ben wythnos y Sulgwyn 2003 a 38 ohonom ar
dân i gyrraedd paradwys y Caribî.
I'n
croesawu i'r wyl, cawsom fersiwn Barbados o'r 'Highland
Games' gyda phawb yn mwynhau gêmau di-ri ar y
traeth a pherfformiadau dewr iawn yn yr ornest tynnu
rhaff!
Ar
y nos Fawrth, roeddem yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn
Neuadd Collymore yn Bridgetown, ynghyd ag un o gorau
lleol yr ardal. Dan arweiniad ein harweinyddes, Sioned
James, buom yn diddanu cymuned yr 'ex-pats', gyda’r
rhaglen gerddoriaeth amrywiol yn tynnu ambell ddeigryn
i lygaid y Cymry alltud.
Cawsom
hefyd wahoddiad i ganu mewn Cymanfa Ganu yn un o gapeli'r
brifddinas, gyda thri chôr lleol arall. Gyda’r
gynulleidfa frwdfrydig dan arweiniad Alun Guy, a'r gwres
tanbaid, profodd hon yn noson i'w chofio. Profiad bythgofiadwy
oedd cydganu emyn?donau Cymreig yng nghwmni llond capel
o drigolion lleol Barbados.
Uchafbwynt
y daith i lawer oedd dwy daith a gawsom ar gwch catamaran
ar hyd arfordir yr ynys. Yn ystod y dydd, cawsom gyfle
i roi tro ar 'snorkellio' a nofio ynghanol y pysgod
a'r cwrel amryliw – profiad cofiadwy iawn! Ar
y daith nos, roedd pawb mewn hwyliau a digonedd o ganu
a dawnsio i'n diddanu ar fwrdd y llong. Daeth y cyfan
i ben gyda'r côr yn morio canu'r anthem wrth ddocio
'nôl yn yr harbwr.
Roedd
hi'n wythnos i'w chofio, a'r sylw rwan yn troi at ddewis
pa wlad y byddwn ni'n ymweld â hi'r flwyddyn nesaf.
Mae'r awydd i deithio wedi cydio! |