Instant Slide Show!

 

CYNGHERDDAU

CYNGERDD CYNTAF
Ar ol sefydlu y côr ym mis Chwefror 2000 ac ymarfer un gan, "Dawnsio'r Ffandango" yn ddiwyd am rhyw 3 mis solet, perfformiodd y cor am y tro cyntaf yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd. Roedd pawb yn gweddio na fyddai'r gynulleidfa am glywed encore gan mai dim ond un gan yn unig (a honno yn rhyw funud a hanner o hyd!) oedd gan y côr yn eu repertoire!!!



Sioned James

Yr Arweinydd

 

 

 

YSGOL GLANTAF, CAERDYDD
Er mwyn codi arian at Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2001, daeth Cordydd a Chor Merched Canna at ei gilydd i gynnal noson bythgofiadwy yn Ysgol Gyfun Glantaf. Arfon Haines Davies oedd yn llywio'r noson ac mi ehangodd y cor ar eu un can o repertoire a rhoi perfformiad "egniol" iawn!!!

NEUADD DEWI SANT, CAERDYDD
Mae Côr Meibion Pendyrus yn cynnal cyngerdd blynyddol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac mi wahoddwyd Côrdydd i ymuno gyda hwy yn 2001. Gyda'r neuadd dan ei sang, cafwyd noson i'w gofio mewn mwy nag un ffordd - yn anad dim oherwydd marwolaeth arweinydd dawnus Côr Meibion Pendyrus - Glyn Jones. Mi oedd hi felly'n fraint i'r côr gael bod yn rhan o'r noson.

CLWB GOLFF RADYR
Gwahoddwyd y cor i fod yn adloniant i lond lle o olffwyr Radyr a chanu trawsdoriad o ganeuon - hen a newydd, ysgafn a mwy clasurol. Doedd dim gormodedd o le i Branwen , ein cyfeilydd gan fod y lle mor llawn, ond serch hyn, cafwydd noson anhygoel o ganu a mwynhau.

CAPEL EBENESER, STRYD SIARL, CAERDYDD - "TEILWNG YW'R OEN"
Wedi misoedd o addo cyngerdd Nadolig mawreddog er mwyn codi arian at Eisteddfod yr Urdd 2001, mi benderfynwyd perfformio y clasur "Teilwng Yw'r Oen" ar y 21ain o Ragfyr yn Ebeneser. Gyda chymorth dibynadwy Alun Guy, crewyd band gwadd arbennig ar gyfer y noson - rhyw 12 o gerddorion i gyd. Ac wrth gwrs, gwahoddwyd Alun ei hunan i arwain y gynulleidfa yn y canu carolau - yn ei ffordd ddihafal ei hun mi grewyd naws arbennig a Nadoligaidd iawn…platfform perffaith ar gyfer y perfformiad i ddod! Cafwyd perfformiadau unigol gan Catrin Brookes, Ellen Salisbury, Dion Davies, Heledd Cynwal, Catrin Richards, Betsan Thomas, Sion Lewis, Ian Morris, a Nia Elin - a'r actor Gwion Huw, oedd y llefarydd. Roedd Ebeneser dan ei sang gyda rhyw 300 (?) o bobl yn bresennol………..ac i goroni llwyddiant ysgubol , cafwyd parti yng Ngwesty Royal, Caerdydd - a rhieni y cantorion i gyd yn mwynhau yno hefyd!


EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH 2001
Mae mis Awst yn adeg anodd i gael presenoldeb cyson gyda'r cor felly daeth 30 ohonom at ein gilydd i gystadlu yn y gystadleuaeth ffyrnig, Cor Cymysg dan 40 o leisiau. Perfformiwyd y darn gosod, 'Am Brydferwch Daear Lawr' gan Rutter, 'Cennin Aur', Mansel Thomas a 'O Deffro Dant' gan Haydn. Doedd y cor ddim yn disgwyl rhyw lawer gan mai dyma'r tro cyntaf iddynt gystadlu - ond yn ffodus, mi ddaeth y cor yn ail allan o 8 o gorau safonol a phrofiadol…………felly ymlaen a ni at Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002!!!

OPERA 'CRWTYN BACH Y SIMNE'
Mewn prosiect arloesol ar y cyd gyda chwmni teledu Al Fresco, perfformiodd Cordydd mewn cyfieithiad o "The Little Sweep" Benjamin Britten ("Crwtyn Bach y Simne") a ddarlledwyd dros gyfnod y Nadolig 2001 ar S4C. Roedd y caneuon yn rai gwahanol iawn i'n repertoire arferol - ond doedd dim wedi ein paratoi ni at y gwisgoedd Fictorianaidd oedd rhaid eu harddel! (wele rai lluniau gan Dyfed!) Perfformiadau clodwiw gan Rhys Bebb, Sion Lewis, Angharad Gwyn a Heledd Cynwal!!!!!!!

RHAGFYR 2001
Yn ôl traddodiad, cynhaliwyd cyngerdd Nadolig, gydag Alun Guy wrth y llyw unwaith eto yn arwain y carolau cynulleidfaol. Roedd Tabernacl yr Aes, Caerdydd yn llawn a'r naws Nadoligaidd eto wedi ei gyfleu yn berffaith gan Mr Guy. Roedd rhyw 65 o gantorion yn y cor, a'r sedd fawr dan ei sang. Canwyd amrywiaeth o garolau - deunydd wedi'u trefnu gan Mr Guy fel Gwyn Ddolig (White Christmas) a Nadolig Pwy a Wyr?, Iesu Yw a Carol y Seren gan Gareth Glyn, Candlelight Carol gan John Rutter, ac wrth gwrs mi berfformiodd y bechgyn eu 'debut' fel 'parti bechgyn', Troytes's Chant - mae'n siwr mai hwn gafodd cymeradwyaeth fwyaf y noson! I goroni noson Nadoligaidd arbennig arall, cafwyd parti i'w chofio yn Topo Gigo's gyda'r holl rieni, teuluoedd a ffrindiau yn ymuno yn y ffwlbri unwaith yn rhagor!

IONAWR 2002
Mae Soiree's Hen Galan Parc y Rhath yn unigryw ac yn enwog erbyn hyn ac nid oedd modd i Gordydd wrthod y gwahoddiad i berfformio ynddi eleni. Roedd hi'n brofiad diddorol gyda pherfformiadau eraill gan Tudur Dylan Jones, Sioned Mair a Heather Jones, Iona Jones, Gari Nicholas a Dafydd Wigley.

   

Teilwng yw yr Oen 2000