Côrdydd
Pencampwyr Cystadleuaeth Corau
Radio Cymru 2003

Cystadleuaeth Radio Cymru 2003

|
|
Ebrill
y deuddegfed yng Nghaerdydd - dwy ffeinal, a'r cyffro'n heintus
wrth ddisgwyl y diwrnod mawr. Ers misoedd, roeddem wedi bod yn dilyn
trywydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd i'w ffeinal yn Stadiwm y Mileniwm,
a'r achlysur wedi ei glustnodi yn ein dyddiaduron yn barod. Ond
rhaid oedd newid ein cynlluniau pan ddaeth y newyddion fod ein côr
ni, Côrdydd, drwyddo i ganu yn ffeinal Cystadleuaeth Corau
Radio Cymru yn Neuadd Dewi Sant ar yr un dyddiad. Roedd diwrnod
llawn cynnwrf ar y gorwel.
Mawr
fu'r paratoi ar gyfer y gystadleuaeth gan y côr. Yn gyntaf,
roedd angen twtio a chaboli'r darnau a ganwyd yn y rowndiau blaenorol.
Ond rhaid oedd torchi llewys a newid ger er mwyn dysgu darn comisiwn,
a hynny mewn ychydig wythnosau. Tipyn o her, yn enwedig a'r darn,
`Atgofion' gan Richard Elfyn, yn un nodweddiadol fodern yn llawn
cymalau a chynganeddion annisgwyl. Rhaid cyfaddef ein bod ni'n gôr
digon hamddenol fel arfer gyda'r pwyslais lawn cymaint ar y cymdeithasu
a'r canu - polisi creiddiol i lwyddiant y côr er clod i Sioned
James, ein harweinyddes. Ond rhaid oedd ymateb i'r her. Rhoddwyd
recordiad personol o'r gan ar CD i bob aelod, a chyfarwyddyd pendant
ein bod i wrando arni bob cyfle posib a' i dysgu - yn y gwaith,
yn y car, yn y gwely. . . !
Doeddem
ni ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl ar y noson. A ninnau’n
gôr cymharol newydd, roeddem yn ymwybodol ein bod yn cystadlu
yn erbyn corau profiadol a oedd wedi hen ennill eu plwyf. Felly
mentro a meddwl agored wnaethon ni, gyda Sioned yn rhoi'r pwyslais
ar fwynhau a chanu'n gorau. A dyna a ddigwyddodd. Mwynhau am 17
munud ar lwyfan Neuadd Dewi Sant, a phawb yn gwneud eu gorau er
parch i Sioned a'i gwaith caled. Hefyd, roedd bois y clwb rygbi
wedi ennill eu ffeinal nhw yn y prynhawn, felly roedd hyd yn oed
mwy o fin ar ein hawch cystadleuol. Byddai dathlu'r dwbwl yn golygu
dwywaith y dathlu!
Mae'r
gweddill yn hanes. Buddugoliaeth i’r côr, a ninnau'n
gorfoleddu. Penwythnos mawr oedd hwnnw yng Nghaerdydd, a'n `Hatgofion'
ninnau, chwedl cân Richard Elfyn, yn rhai melys. Mae ein dyled
yn fawr i Sioned am ei hymroddiad, ei hamynedd a'i diffyg cwsg!
Ond mae arnom ddyled hefyd i drigolion Caerdydd am eu cefnogaeth
i'r côr ers ein sefydlu dair blynedd yn ôl. A gyda'r
gofid diweddar yn y wasg am segurdod Cymry ifanc Caerdydd, braf
yw gallu adrodd bod digwyddiadau Ebrill y deuddegfed yn dystiolaeth
bendant bod peth gweithgarwch a chyfrannu’n ôl yn rhan
o'r cymdeithasu a'r joio yn y ddinas fawr.
Mari
Watkin |

Dinbych 2001
|
|
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH 2001
Mae mis Awst yn adeg anodd i gael presenoldeb
cyson gyda'r cor felly daeth 30 ohonom at ein gilydd i gystadlu
yn y gystadleuaeth ffyrnig, Cor Cymysg dan 40 o leisiau. Perfformiwyd
y darn gosod, 'Am Brydferwch Daear Lawr' gan Rutter, 'Cennin Aur',
Mansel Thomas a 'O Deffro Dant' gan Haydn. Doedd y cor ddim yn disgwyl
rhyw lawer gan mai dyma'r tro cyntaf iddynt gystadlu - ond yn ffodus,
mi ddaeth y cor yn ail allan o 8 o gorau safonol a phrofiadol....felly
ymlaen a ni at Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002!!! |

Ty Ddewi 2002
|
|
Ail unwaith eto! |

Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003
Instant Slide Show!
|
|
SIAMPÊN YN TROI'N CHWERW....
Côr CF1 yn fuddugol; Côr Caerdydd
yn fuddugol; Côr Aelwyd Hamdden Caerdydd yn fuddugol. Mae'n
siwr fod disgwyliadau trigolion Cymraeg y Brifddinas yn uchel gogyfer
perfformiad Côrdydd ar ddydd Gwener yr Eisteddfod, yn enwedig
ar 61 iddynt gipio'r wobr yng Nghystadleuaeth Radio Cymru Côr
Cymru 2003 yn gynharach eleni.
Wel os oedd 'na ddisgwyl mawr - siom a gafodd ein cefnogwyr, heb
sôn amdanon ni, aelodau'r côr. Siomedigaeth lem!!!
Mi oedd yna 7 côr yn brwydro am y fuddugoliaeth
yn y gystadleuaeth Côr Cymysg rhwng 20-45 mewn nifer. A Chôrdydd
oedd y cyntaf ar y llwyfan. Wedi misoedd o chwysu, bloeddio a diffyg
cwsg, roeddwn fel arweinydd yn hollol sicr na allai'r 45 aelod bochgoch
(o ganlyniad i wres tanbaid y Pafiliwn) fod wedi canu'n well. Dyma
felly obeithio y byddai'r tri beirniad yn cytuno! Wedi dweud hyn,
roedd yr hen 'elynion', Adlais, ABC a Chantorion y, Rhos, ac ambell
i gôr newydd arall, wedi rhoi gwir her i'r corau i gyd a rhaid
oedd derbyn fod y safon yn uchel iawn eleni.
Heidiodd y côr i wrando ar y feirniadaeth.
A dyma Eifion Thomas yn dechrau traddodi, yn dra haelionus a chanmoliaethus
am Gôrdydd; ac o glywed y chwe dyfarniad canlynol, roeddwn
i'n gobeithio bod fy ngreddf yn gywir!
Ond och a gwae - fel
pob drama dda, roedd 'na dro i'r gwt! Roedd yr Eisteddfod
wedi penderfynu gwneud esiampl o'r gystadleuaeth hon,
a chosbi'r pum côr allan o'r saith, oedd wedi
canu dros y deuddeng munud penodedig. Roedd wynepryd
y tri beirniad yn adlewyrchu eu teimladau hwy ac, yn
wir, deimladau'r corau. Anghredinedd bur!
O ganlyniad, mi aeth Côrdydd o fod yn gyntaf yn ôl beirniadaeth
wreiddiol y beirniad, i fod yn 6ed allan o 7! Hyn wedi i'r Eisteddfod
orfodi'r beirniad i newid y dyfarniad. Cwympo 0 91 0 farciau i 51
! Mae'r peth yn chwerthinllyd erbyn hyn, ryw fis ar ôl y digwyddiad
- ond doedd yr un ohonon ni'n chwerthin ar y pryd!
Fodd bynnag, wedi'r sylweddoliad fod y gallu
i gyfri yn tra?arglwyddiaethu dros safon gerddorol, dim ond un peth
oedd i wneud. Felly mas a'r Côr i ddathlu beth bynnag! Cafwyd
noson arbennig ym Meifod, yn canu dros beint gydag aelodau Adlais
a Chôr Eifionydd. Ond os nad oeddech chi yn digwydd bod ym
Meifod y noson honno, tybed allwch chi ddychmygu beth oedd prif
thema ein sgyrsiau.....??!!!!
Gyda llaw, yn dilyn digwyddiad tebyg yn Eisteddfod
Tawe Nedd ac Afan eleni - mi fyddai'r Côr yn barod i dderbyn
rhyw fath o iawndal gan unrhyw gwmni hedfan....maen nhw'n dweud
fod y Maldives yn le braf!
Sioned James
|
|