| Côrdydd
Arweinydd:
Sioned James
Cyfeilyddion:
Branwen Gwyn
Y
Côr Buddugol yn
Eisteddfod Meirion 2009
Eisteddfod Caerdydd 2008
Eisteddfod Abertawe 2006
Eisteddfod Eryri 2005
Eisteddfod Casnewydd 2004
Côrdydd
- pencampwyr
Cystadleuaeth Corau
Radio Cymru 2003
Côr o leisiau ifanc
yn
perfformio dewis diddorol
o gerddoriaeth clasurol a chyfoes |
. |
Ymarferion
7.30
pm bob Nos Iau
yn
Ysgoldy Capel Salem Treganna
Croeso
i Aelodau Newydd
boed
yn Soprano Alto Tenor neu Bas
Ffoniwch:
07887 571687
am
wybodaeth pellach neu e-bost
 |
| Sefydlwyd Côrdydd nôl yn 2000 gan griw o ffrindiau ac maent wedi mwynhau llwyddiant yn ystod yr wyth mlynedd ers hynny.
Maent wedi teithio i Hong Kong a Barbados a nol yn 2004, aethant ar daith gyda Cherddorfa Baroc Cymru, i berfformio’r Meseia. Yn 2003, enilllodd Cordydd gystadleuaeth Cor Cymru Radio Cymru. Yn 2005 buont yn ffodus i ganu Requiem Verdi gyda Cherddorfa’r BBC a Requiem Brahms ar y cyd gyda Chor Bach Abertawe. Maent wedi recordio sesiynau radio i’r Sunday Half Hour ar Radio 2 ac wedi ymddangos ar deledu a radio droeon.
|
|
Enillodd Cordydd yr ‘hatrick’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol nôl yn 2006, wedi buddugoliaethau eraill yn 2004, a 2005. Ond mi gawsant hoe o’r cystadlu y llynedd i recordio eu CD cyntaf, o Offeren John Rutter i’r Meirw, gyda’r soprano ddisgalir Elin Manahan Thomas, a hynny yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed, a’r geiriau gan y bardd, Dr Emyr Davies.
Yn 2008, enillodd Côrdydd yn eu categori unwaith yn rhagor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar eu tir eu hunain yng Nghaerdydd, a choron ar yr wythnos honno, a’r flwyddyn 2008, oedd cael eu dewis yn Gôr Yr Wyl yn yr Eisteddfod honno. |